Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (189)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Polisi am yr Iaith Gymraeg - Ymateb i Adroddiadau ar y Mentrau Iaith a Chymunedau Cymraeg (30 munud)
Dogfennau Ategol
|
4 Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014 (15 munud)
NDM5473 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2014.
Dogfennau Ategol Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn Unig)
|
5 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014 (15 munud)
NDM5472 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2014.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Diwygiadau
Amrywiol) (Cymru) 2014
|
6 Dadl: Darparu Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (60 munud) NDM5474 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i ddarparu cymunedau diogelach i ddinasyddion.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar griwiau tân ac achub ac effaith hyn ar sicrhau cymunedau mwy diogel.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r trydydd sector i gynnal gwerthusiad cadarn ar y cyd o ymyriadau diogelwch tân.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae diffoddwyr tân yn ei wneud – a bod cymunedau Cymru yn dibynnu arnynt am lawer mwy na diffodd tân.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid cael dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth tân ac achub lle mae penderfyniadau gweithredol strategol yn cael eu gwneud ar sail anghenion y gwasanaeth.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i edrych ar strwythur Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda'r Awdurdodau Tân ac Achub i sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
|
7 Dadl: Mynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â Thai (60 munud)
NDM5475 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr effaith negyddol y mae ymddygiad
gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai yn gallu ei chael
ar bobl ac ar eu hiechyd a’u lles;
2. Yn nodi canfyddiadau ymchwil Llywodraeth Cymru “Wales
Anti-Social behaviour: Policy and Practice Review” fel sail
ar gyfer gweithredu pellach; ac
3. Yn galw ar sefydliadau perthnasol yn y sector cyhoeddus
a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd i daclo
ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai. Cewch weld copi o “Wales Anti-Social behaviour: Policy and Practice Review” ar y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/housing-and-regeneration/publications/how-social-landlords-tackle-anti-social-behaviour/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwyaf effeithiol pan maent yn canolbwyntio ar ymyriadau cynnar, atal a chydweithio rhwng asiantaethau.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, cynnwys ‘ac argymhellion allweddol’ ar ôl ‘canfyddiadau’
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector yn cydweithio'n fwy effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thai.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gorgyffwrdd helaeth rhwng meysydd fel tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch cymunedol a phlismona, ac yn credu y byddai modd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â thai mewn ffordd fwy effeithiol pe bai pob un o'r meysydd hyn yn cael eu datganoli.
|
8 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Addysg (Cymru) (15 munud) Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Addysg (Cymru)
Dogfen Ategol |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 26 Mawrth 2014